Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gan ddysgwr ADY os oes ganddo/ganddi anhawster neu anabledd dysgu sy’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae gan blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster neu anabledd dysgu:

  1. os yw'n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran, neu  
  2. os oes ganddo anabledd, yn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster neu anabledd dysgu os yw ef neu hi yn debygol (neu y byddai’n debygol pe na bai DDdY) o gael cryn dipyn yn fwy o anhawster wrth ddysgu na’r rhan fwyaf o’i gyfoedion/chyfoedion pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol. 

Nid oes gan berson anhawster dysgu neu anabledd dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf iaith) y mae ef neu hi yn cael ei dysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf iaith) a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd gartref.

Mae “darpariaeth ddysgu ychwanegol” ar gyfer person tair oed neu'n hŷn yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i'r hyn a wneir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oed yn—

(a) ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,

(b) sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru,

Neu

 (c) lleoedd yng Nghymru lle darperir addysg feithrin.

 

Yn Ysgol Gynradd Dolau byddem yn: 

  • Gweithio gyda'r Awdurdod Addysg Leol i sicrhau bod anghenion addysgol arbennig plentyn yn cael eu nodi'n gyflym.
  • Sicrhau fod dymuniadau'r plentyn yn cael eu hystyried wrth ddarparu darpariaeth AAA.
  • Adolygu cynnydd y plentyn yn rheolaidd ac asesu effaith unrhyw ymyrraeth y mae'n ei gael.
  • Gweithio'n agos gyda rhieni a'r holl asiantaethau sy'n ymwneud â'r plentyn.
  • Sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial llawn.

Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol am y Bil ADY newydd ar wefan RhCT isod.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-06/taflen-ffeithiau-ady-sut-bydd-y-ddeddf-yn-effeithio-ar-blant-pobl-ifanc-a-rhieni-gofalwyr.pdf 

 

Adnodd

Fersiwn Cymraeg

Fersiwn Saesneg

Rhieni/gwarcheidwaid a'r rhai sy'n gofalu am Blant a Phobl Ifainc ag ADY. 

1) Taflenni Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad i rieni/gwarcheidwaid

Aros am

 

ddogfen PDF

 

Aros am

 

ddogfen PDF

 

2) A3 - Taflen wybodaeth i rieni -  Canllaw cam wrth gam ynghylch sut i gyflwyno apêl ADY

Mae’r cod QR ar y poster yn agor fideo wedi'i animeiddio sy'n cynnwys canllawiau i rieni.

Mae’r cod QR ar y poster yn agor fideo wedi'i animeiddio sy'n cynnwys canllawiau i rieni  .

3) Animeiddiad bwrdd gwyn – Canllawiau ADY ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid

Dolen YouTube

 

https://youtu.be/z9633ZL9zls

 

 

Dolen YouTube

 

https://youtu.be/ISba05AGqJk

 

 

Adnodd

Fersiwn Cymraeg

Fersiwn Saesneg

 Plant a Phobl Ifainc

1) Poster A3 - Gwybodaeth i blant a phobl ifainc 

 

Mae’r cod QR ar y poster yn agor fideo wedi'i animeiddio i blant a phobl ifainc (sy'n ei chael hi'n anodd yn yr ysgol)

 

Mae’r cod QR ar y poster yn agor fideo wedi'i animeiddio i blant a phobl ifainc (sy'n ei chael hi'n anodd yn yr ysgol)

2) Fideo wedi'i animeiddio - gwybodaeth sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifainc ynghylch sut i ofyn am gyngor os ydyn nhw'n cael trafferth yn yr ysgol/coleg.

Dolen YouTube

 

https://youtu.be/Dst2Gs-tzp0

 

Dolen YouTube

 

https://youtu.be/RT1y2pqSYhA

 

3) Taflen wybodaeth A3 i blant a phobl ifainc am Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) 

 

Mae’r cod QR ar y poster yn agor fideo wedi'i animeiddio i blant a phobl ifainc sy'n ymwneud â ThAAAC (y broses dribiwnlys)

 

Mae’r cod QR ar y poster yn agor fideo wedi'i animeiddio i blant a phobl ifainc sy'n ymwneud â ThAAAC (y broses dribiwnlys)

4) Fideo wedi'i animeiddio - gwybodaeth i blant a phobl ifainc am rôl y TAAAC

Dolen YouTube

 

https://youtu.be/d53YS4wQuBA

 

Dolen YouTube

 

https://youtu.be/8lgj3Wm5R5I

 

 

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael mynediad at yr holl glipiau fideo ar yr un pryd:

https://www.youtube.com/playlist?list=PLhSmMGgX6cin37FQS9NAbYSx6xrOTvEF4

 

Mae awtistiaeth yn llawer mwy cyffredin nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl. Mae tua 700,000 o bobl awtistig yn y DU - mae hynny'n fwy nag 1 o bob 100.

Mae Gwybodaeth ASD Cymru yn safle Cenedlaethol ar gyfer Anhwylderau Sbectrwm Awtistig (ASD). Ar y wefan fe welwch lawer o wybodaeth am Anhwylderau Sbectrwm Awtistig (gan gynnwys Awtistiaeth a Syndrom Asperger), manylion gwasanaeth, cyfleoedd hyfforddi a diweddariadau ar weithredu Cynllun Gweithredu Strategol ASD ar gyfer Cymru.

 

 

Mae Dysgu gydag Awtistiaeth yn rhaglen a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i godi ymwybyddiaeth o ASD mewn ysgolion ac mae'n agored i bob ysgol gyrraedd y safonau gofynnol trwy gydol eu hysgol gyfan. Rydym yn falch iawn yn Ysgol Gynradd Dolau ein bod wedi cyflawni'r Wobr Dysgu gydag Awtistiaeth Ysgol Gynradd.

 

Ffyrdd o gefnogi dysgwyr ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD)

https://llyw.cymru/ffyrdd-o-gefnogi-dysgwyr-ag-anhwylder-ar-y-sbectrwm-awtistig-asd

 

 

Awtistiaeth: Canllaw i Ysgolion Cynradd Prif Ffrwd

https://autismwales.org/wp-content/uploads/2020/09/2015_Autism-A-Guide-for-Mainstream-Primary-Schools-WELSH.pdf 

 

Ffyrdd o gefnogi dysgwyr ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

https://llyw.cymru/ffyrdd-o-gefnogi-dysgwyr-ag-anhwylder-diffyg-canolbwyntio-gorfywiogrwydd-adhd 

 

 

Mae Snap Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag, neu a allai fod ag, anghenion neu anableddau addysgol arbennig.

https://www.snapcymru.org/?lang=cy 

 

 

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ChildrenandFamilies/ParentandFamilySupport/ResilientFamiliesService.aspx 

https://www.youtube.com/watch?v=iFvS2KwgfO8 

Mae’r gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth wedi bod yn weithredol ers mis Ionawr 2018 ac yn darparu trefniadau’r Garfan o amgylch y Teulu (TAF) yn RhCT. Dyma ddull cydnabyddedig y Cyngor o gyflawni'r agenda atal ac ymyrryd yn fuan ar draws RhCT.  Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhoi cymorth cyflym, effeithiol, cyson a phwrpasol i deuluoedd.

Mae'r Gwasanaeth wedi'i gynllunio i nodi'r teuluoedd cywir sydd angen cymorth ar yr adeg gywir, i gynnig asesiadau cyflym sy'n canolbwyntio ar wydnwch, i gael gwared ar rwystrau ymarferol i newid cadarnhaol, ac i gynnig ymyriadau amserol ac effeithiol. Bydd y Gwasanaeth yn darparu gwell cymorth i deuluoedd mewn amseroedd ymateb cyflymach; asesiad diagnostig byrrach a chryfach; pwynt cyswllt unigol dibynadwy a chymorth ymarferol rhagweithiol i gysylltu ag ymyriadau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu lefelau gwydnwch.

Y mecanwaith Cyfeirio Newydd ar gyfer y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth: 

Mae modd atgyfeirio at y Gwasanaeth drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol:

  • Mae modd i deuluoedd hunan-gyfeirio at y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth drwy ffonio 01443 425006 

Bydd pob atgyfeiriad a gaiff ei atgyfeirio i'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn cael ei frysbennu ar sail risg/anghenion.   Bydd atgtyfeiriadau sy'n cael eu derbyn gan y Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth sydd ddim yn cyrraedd trothwy Gwasanaethau i Blant ond sy'n cael eu hystyried yn briodol ar gyfer ymyrraeth yn cael eu dyrannu i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Bydd negeseuon e-bost yn cael eu darllen yn ystod oriau swyddfa yn unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30 a 17:00.